Amdana'i
Helo,
Fy enw i ydy Rhodd a dwi’n hyfforddwr personol ers 2019.
Dwi’n wreiddiol o ogledd Cymru, ond ers ‘chydig (!) o flynyddoedd rwan dwi’n byw yng Nghaerdydd.
Yn bersonol, mae ymarfer corff i mi yn ffordd o symud y corff a, chlirio’r meddwl, ac weithiau dwi’n cael yr awydd i wthio fy hun gydag heriau amrywiol.
I mi, nid sut mae’r corff yn edrych sy’n bwysig, ond y gallu i symud y corff mewn ffordd effeithiol gan gadw’r meddwl yn gryf.
Dwi’n bell o fod yn ‘berffaith’, beth bynnag ydi hynny. Dwi’n coelio mewn mwynhau fy hun ar hyd y ffordd, felly nai byth wrthod darn o gacen na glasiad bach bob hyn a hyn.
​
​
​
Mae bywyd yn brysur, felly dwi’n cyd-weithio gyda cleientiaid i’w gneud hi mor hawdd â phosib i ymarfer corff yn gyson, mewn ffordd adeiladol sy’n rhoi mwynhad, ac o ganlyniad mae’r buddion yn dilyn.
Ers 2022, dwi’n astudio cwrs Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Wrecsam. Mae wedi bod yn brofiad gwych, a dwi’n edrych ‘mlaen i ddysgu mwy yn y maes yma dros y flwyddyn nesaf, wrth i mi deilwra fy sesiynau ffitrwydd.
Yn fy amser rhydd, dwi’n mwynhau cymdeithasu, trio pethau newydd, rhedeg a mynd am dro yn y mynyddoedd – cymryd mantais o fod yn y Gogledd go iawn!
Os hoffech chi fwy o wybodaeth, croeso i chi gysylltu!